O M Edwards

Owen Morgan Edwards

26 Rhagfyr 1858 – 15 Mai 1920

Arolygwr ysgolion, llenor a chyhoeddwr cylchgronau i oedolion ac i blant oedd Owen Morgan Edwards.

Ganwyd Edwards ar 26 Rhagfyr 1858 yng Nghoed-y-pry, Llanuwchllyn, yn fab i Owen Edwards, ffermwr, ac Elizabeth. Cafodd ei addysg yn ysgol y plwyf cyn mynychu Ysgol Ramadeg y Bala, ac yna Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Oddi yno aeth i Glasgow am gyfnod ac yna i Goleg Balliol, Rhydychen lle ’roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. Graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes Modern.

Cafodd yrfa hir fel golygydd cylchgronau. Dechreuodd fel cyd-olygydd Cymru Fydd (1889–1891), cylchgrawn y mudiad gwleidyddol o'r un enw. Yn 1891 dechreuodd olygu a chyhoeddi y cylchgrawn Cymru (1891–1920) yn fisol, a adwaenir yn aml fel y Cymru Coch, oherwydd lliw y clawr. Yn yr un flwyddyn dechreuodd gyhoeddi y cylchgrawn misol i blant Cymru’r Plant; ar ei anterth yn 1900 roedd hwn yn gwerthu tua 40,000 o gopïau y mis, sy’n ei wneud y cyhoeddiad mwyaf poblogaidd erioed yn hanes Cymru.

Roedd yn aelod o’r Blaid Ryddfrydol a daeth yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd ym 1899, yn dilyn marwolaeth Thomas Edward Ellis ym mis Ebrill 1899. Ni fwynhaodd fywyd y senedd ac felly ni ymgeisiodd i gael ei ail-ethol ym 1900.

Yn 1907 dewiswyd ef yn brif arolygydd ysgolion Cymru. Ynghyd â’r gwaith hwnnw roedd yn ymroddedig i greu yn ei gyd-Gymry falchter yn eu hanes, eu hiaith a’u diwylliant, ac i’r perwyl hyn fe ysgrifennodd nifer o lyfrau Cymraeg wedi eu hysgrifennu mewn arddull a oedd yn apelio at y darllenydd cyffredin.

Golygodd a chyhoeddodd ddwy gyfres bwysig o glasuron rhyddiaith a barddoniaeth Cymraeg, sef Cyfres y Fil (37 cyfrol) a Llyfrau ab Owen. Cyhoeddodd yn ogystal Cyfres Clasuron Cymru. Cafodd y llyfrau bach deniadol, rhad a safonol hyn ddylanwad mawr ar feddylfryd y Cymry.

Gwnaethpwyd yn Farchog ym 1916 a gwobrwywyd gyda gradd anrhydedd o Brifysgol Cymru ym 1918. Bu farw ei wraig ym 1919, a bu farw yntau yn Llanuwchllyn ym 1920. Aeth ei fab, Ifan ab Owen Edwards ymlaen i sefydlu Urdd Gobaith Cymru. Enwyd Ysgol O M Edwards yn Llanuwchllyn ar ei ôl er mwyn ei anrhydeddu.

Gwybodaeth o Wicipedia