Moelona

Moelona – Elizabeth Mary Owen

21 Mehefin 1877 - 5 Mehefin 1953

Athrawes, llenor a cholofnydd oedd Moelona – gwraig a oedd yn eangfrydig ei diddordebau ac yn daer dros y Gymraeg a’i diwylliant. O gefndir amaethyddol, fe’i ganwyd ar fferm Moylon ym mhentref Rhydlewis, yn ne Ceredigion.

Nid aeth i’r brifysgol er iddi ennill ysgoloriaeth i Goleg Aberystwyth. Yn hytrach, trodd ei bryd at ddysgu ac fe’i penodwyd yn ddisgybl-athro yn ysgol Rhydlewis. Un o’i chyfoedion yno a ymgeisiodd am y swydd oedd Caradoc Evans, brodor arall o’r ardal a ddaeth yn awdur nodedig.

O ganlyniad i’w gwaith beunyddiol roedd Moelona’n ymwybodol iawn o’r diffyg deunyddiau ar gyfer dysgu’r Gymraeg ac aeth ati ei hun i lenwi’r bwlch. Yr oedd eisoes wedi cyhoeddi ffuglen i oedolion, Dwy Ramant o’r De (1911), yna rhoddodd gynnig ar ysgrifennu nofel i blant am y tro cyntaf. Cyflwynodd y gwaith gorffenedig i’r gystadleuaeth ar gyfer nofel i blant ysgol rhwng 12 a 14 oed ‘yn disgrifio Bywyd Cymreig’ yn Eisteddfod Wrecsam 1912 ac ennill y brif wobr o £5. Yna, yn 1913, cyhoeddwyd y nofel fuddugol honno gan Hughes a’i Fab, a daeth Teulu Bach Nantoer i gyrraedd plant Cymru am y tro cyntaf.

Wedi cyhoeddi’r nofel yn 1913, daeth Moelona yn ffigwr pur adnabyddus yng Nghymru fel nofelydd, colofnydd ac athrawes. Aeth ati i ysgrifennu nofelau i blant ac oedolion megis Breuddwydion Myfanwy (1928) a Ffynnonloyw (1938) a’r gwerslyfrau Priffordd Llên (1924) a Storïau o Hanes Cymru (1930). Roedd hi am arwain a siapio meddyliau ifanc ac ni allai ddiosg mantell yr athrawes a’r genedlaetholwraig yn hawdd. Gosodai eirfa ac ymarferion ar derfyn ei nofelau er mwyn eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, a byddai nifer o’i chymeriadau, megis pobl ifanc Cwrs y Lli (1927), yn ymgorffori’n amlwg iawn ddelfrydau’r awdur.

O 1914 ymlaen bu Moelona’n gyfrifol am Golofn y Plant yn Y Darian (Tarian y Gweithiwr gynt) a sefydlodd Golofn y Merched yn yr un papur yn 1919. Golygydd Y Darian ar y pryd oedd y Parchedig John Tywi Jones, gweinidog gyda’r Bedyddwyr, gŵr gweddw a oedd yn adnabyddus am ei ddaliadau gwladgarol a’i ymdrechion dros yr iaith a’i diwylliant. Dechreuodd Moelona ac yntau ganlyn a phriodwyd y ddau yn 1917. Ymgartrefodd Moelona wedi hynny yn y Glais, Abertawe, gyda Tywi a’i ddwy ferch o’i briodas gyntaf, Sophie a Gwyneth. Mae’n debyg na fu perthynas glòs rhwng Moelona a’r merched.

Bu farw Moelona yn 1953 yng Ngheinewydd, lle bu’n byw ers ymddeoliad ei gŵr yn 1935.

Llun o gasgliad Llyfrgell Ceredigion