Daniel Owen

Daniel Owen

20 Hydref 1836 – 22 Hydref 1895

Awdur Cymreig oedd Daniel Owen. Roedd yn un o lenorion mwyaf blaengar y 19eg ganrif yn yr iaith Gymraeg a gofir fel un o arloeswyr mawr y nofel yn Gymraeg.

Ganwyd Owen yn yr Wyddgrug yn fab i Robert Owen, glowr. Bu farw ei dad a’i ddau frawd James a Robert ar 10 Mai 1937 mewn damwain pan fu llifogydd yn mhwll glo Argoed. Cafodd hyn gryn effaith ar y teulu gan y buont yn dlawd iawn. Ni dderbyniodd unrhyw addysg ffurfiol ond cydnabyddodd Owen ei ddyled i’r addysg a dderbyniodd yn yr Ysgol Sul.

Yn 12 oed daeth Owen yn brentis i deiliwr, Angel Jones, a oedd yn un o hynafiaid y Methodistiaid Calfinaidd. Disgrifiodd Owen y brentisiaeth fel math o goleg, a dechreuodd ysgrifennu cerddi wedi iddo cael ei ddylanwadu gan un o’i gyd-weithwyr. Defnyddiodd Owen siop y teiliwr fel cyfle i drafod a dadlau testynai gada’i gyd-weithwyr a’r cwsmeriaid, thema sy’n amlwg yn ei nofelau. Adroddir hanes yr un math o addysg yn y nofel Rhys Lewis, fel y math o addysg a dderbyniodd y cymeriad Robyn y Sowldiwr.

Bu Daniel Owen yn hyfforddi am gyfnod yng Ngholeg y Bala, ond ni chafodd ei ordeinio. Roedd yn aelod yng nghapel Bethesda, yr Wyddgrug lle cafodd ei ysgogi gyntaf i gyhoeddi penod o nofel yng nghofnodolyn Y Drysorfa bob mis. Golygid y cylchgrawn ar y pryd gan y Parchedig Roger Edwards a oedd â gofal am eglwys Bethesda.

Yr oedd yn ddeifiol ei wawd o'r tueddiadau a welai mewn Anghydffurfiaeth yng Nghymru i fod yn ymbarchuso yn ystod ei gyfnod ef.

Gwybodaeth o Wicipedia
Llun o Casgliad y Werin Cymru