Edward Thomas

Edward Thomas

3 Mawrth 1878 – 9 Ebrill 1917

Roedd Philip Edward Thomas yn newyddiadurwr, yn feirniad llenyddol ac yn fardd Eingl-Gymreig. Trodd Thomas i ysgrifennu barddoniaeth ym 1914 pan oedd yn barod wedi gwneud enw iddo’i hun fel ysgrifennwr. Aeth i’r fyddin yn 1915 ac fe’i laddwyd ar ddydd Llun Pasg 1917 ym mrwydr Arras.

Ganwyd Thomas yn Lambeth, Llundain i deulu o Gymry. Priododd cyn cwblhau ei radd ac roedd yn benderfynnol o wneud bywoliaeth o’i waith ysgrifennu - tra’n feirniad llenyddol byddai’n aml yn adolygu hyd at 15 llyfr yr wythnos. Erbyn cychwyn y rhyfel roedd yn barod wedi gwneud enw iddo’i hun fel ysgrifennwr, gan gyhoeddi adolygiadau a chofiannau yn ogystal â darnau am natur a chefn gwlad. Cyhoeddwyd ei unig nofel, The Happy-Go-Lucky Morgans, ym 1913.

Gweithiodd Thomas fel beirniad llenyddol i’r Daily Chronicle yn Llundain a daeth yn gyfeillgar iawn hefo’r cardotyn-fardd o Gymro W H Davies, gan gefnogi a hybu ei fywoliaeth fel llenor. O 1905 ymlaen, roedd Thomas yn byw hefo’i wraig Helen a’u teulu yn Elses Farm ger Sevenoaks, Swydd Caint. Llogodd fwthyn bychan cyfagos i Davies lle bu'n ei gefnogi ac yn magu ei waith ysgrifennu. Trefnodd Thomas unwaith i saer olwynion trol lleol greu coes bren dros-dro iddo.

Er iddo gredu mai haen uchaf llenyddiaith oedd barddoniaeth, a’i fod yn aml iawn yn adolygu barddoniaeth, wnaeth Thomas ddim cychwyn barddoni ei hun tan 1914. Tra’n byw yn Steep, Hampshire, cyhoeddodd gerddi dan enw Edward Eastaway. Trodd o ysgrifennu rhyddiaith i ysgrifennu barddoniaeth ym 1914 dan ddylanwad ac annogaeth y bardd Americanaidd Robert Frost - daethant yn ffrindau agos yn 1913.

Mae barddoniaeth Thomas wedi cael ei glodfori a’i frolio gan W H Auden, Cecil Day-Lewis, Dylan Thomas, Philip Larkin, Andrew Motion, Michael Longley a Ted Hughes ond mae’n anhebyg na chafodd gefnogwr mor frwd â Robert Frost: "We were greater friends than almost any two ever were practising the same art," meddai. Thomas oedd yn gyfrifol am gyflwyno gwaith ei gyfaill i gynulleidfa ehangach, a gwerthwyd miliwn o gopiau o lyfrau barddoniaeth yr Americanwr yn ystod ei fywyd. Yn ei dro Frost oedd yn gyfrifol am hybu’r bardd yn Thomas, a daeth o hyd i gyhoeddwr i’w farddoniaeth yn yr Unol Daleithiau. Cyflwynwyd y llyfr hwnnw yn frysiog cyn i Thomas adael am y rhyfel yn Ffrainc: To Robert Frost. Ymatebodd Frost wrth ysgrifennu: Edward Thomas was the only brother I ever had.

Ymunodd Thomas hefo’r Artists Rifles yng Ngorffennaf 1915, er nad oedd yn rhaid iddo ymuno â’r fyddin oherwydd ei oed a’i briodas, yn rhannol ar ôl darllen cerdd Robert Frost The Road Not Taken. Fe’i laddwyd yn fuan ar ôl cyrraedd Ffrainc, ym mrwydr Arras ar ddydd Llun Pasg, Ebrill 1917.

Dychrynwyd W H Davies gan ei farwolaeth, ysgrifennodd gerdd cofiant Killed In Action (Edward Thomas) a gyhoeddwyd yn ei gasgliad Raptures, 1918.

Yn dilyn y rhyfel, ysgrifennodd Helen am eu carwriaeth a’u bywyd priodasol cynnar yn y cofiant As it Was, 1926; ychwanegodd ail gyfrol, World Without End, yn 1931. Dywedodd eu merch Myfanwy, yn ddiweddarch i’r llyfrau gael eu hysgrifennu gan ei mam fel ffordd o ddygymod â’r iselder mawr a ddaeth drosti wedi marwolaeth Edward.

Fel bardd rhyfel mae Thomas yn aml yn cael ei ystyried, ond nifer bach iawn o’i gerddi sy’n trafod ei brofiadau rhyfel - me ei gerddi yn nodedig am eu triniaeth o gefn gwlad Lloegr a'u harddull lled-lafar. Ar 11eg o Dachwedd 1985, roedd enw Thomas ymysg yr 16 o feirdd y Rhyfel Mawr a gerfwyd ar lechen yng Nghornel y Beirdd yn Abaty Westminster. Ysgrifennwyd geiriau'r cofiant gan gyd-fardd o gyfnod y Rhyfel Mawr, Wilfred Owen: My subject is War, and the pity of War. The Poetry is in the pity.

Ym 1985 disgifwyd Thomas fel …the father of us all gan Ted Hughes.

Cyhoeddwyd cofiant Matthew Hollis, Now All Roads Lead to France: The Last Years of Edward Thomas, i froliant mawr yn 2011 ac fe’i dewiswyd ar restr fer y Costa Book Award.

Gwybodaeth o Wikipedia