Cromen ar gwales.com

Llyfrau digidol Cromen ar gael o wefan gwales.com
n-gwales
Mae cael llyfrau digidol Cymraeg ar wefannau Amazon yn dal i fod yn drafferthus iawn – mae nhw’n gwrthod derbyn llyfrau digidol yn yr iaith Gymraeg, er eu bod yn gwerthu yr union lyfr mewn clawr meddal. Ond yn fwy od na hynny – mae nhw’n mynnu “we don't currently support publishing in this language” er fod llyfrau Cymraeg ar gael ar y Kindle Store.

Ond mae ’na newyddion da hefyd, mae llyfrau Cromen ar gael ar wefan gwales.com – ac fe fydd mwy o wefannau eraill yn eu gwerthu yn fuan.