Siopa am e-lyfrau

Mwy o siopau e-lyfrau yn gwerthu cynnyrch Cromen.
cromen-cefn
Mae e-lyfrau Cromen ar gael bellach o wefannau iBookstore, KoboBooks a Hive. Yn ogystal â hynny mae amryw o e-lyfrwerthwyr eraill hefyd yn rhestru llyfrau Cromen e.e. indieebook, pickabook, bokus, tescoebooks.

Y bwriad ydi creu modd o brynu’r e-lyfrau drwy’r byd ac ar gyfer cymaint o declynnau darllen llyfrau digidol a phosibl.