"…lonely pioneer in Welsh e-classics"

The sentimental clap-trap about ‘real’ books
Elin Llwyd Morgan
’s regular column in Barn - April 2016
n-barn-2016-4
Y lol sentimental am lyfrau ‘go iawn’
Elin Llwyd Morgan Barn - Ebrill 2016

Dwi wedi canu clodydd Kindle yn y golofn hon o’r blaen, ond rai blynyddoedd yn ddiweddarach ymddengys fod y ddadl rhwng darllenwyr e-lyfrau a’r rheiny sy’n mynnu glynu wrth lyfrau ‘go-iawn’ yn dal i rygnu ‘mlaen.

Mater o reidrwydd oedd troi at e-lyfrau i mi – hynny neu gael gwared a sypiau o’r cyfrolau sy’n gwneud i’r silffoedd wegian er mwyn gwneud lle i rai newydd, ond doedd gen i ddim awydd mynd trwy’r broses lafurus o ddidoli a gwaredu dro ar ôl tro.

Mi gaiff y llyfrau sydd gen i eisoes aros – lle dienaid iawn ydi tŷ di-lyfr, wedi’r cyfan – ond does dim lle i chwaneg (er bod ambell ffoadur yn dal i sleifio i mewn), nac i fwy o silffoedd chwaith.

Prif ddadl y rhai sydd yn erbyn ydi eu bod nhw’n lecio gafael mewn llyfr. Ond er imi dybio y byddai hynny’n broblem i minnau, buan y sylweddolais mai cynnwys llyfr ydi’r peth pwysicaf amdano a bod modd ymgolli’n well, os rhywbeth, pan nad oes cloriau anhylaw neu brint rhy fân i darfu ar fy mwynhad.

Enghraifft o hyn oedd Awst yn Anogia, nofel orchestol Gareth F. Williams, a fyddai wedi bod yn haws ei darllen ar ffurf lle mae modd addasu’r print; a go brin y buaswn wedi bwrw ati i ddarllen Great Expectations Charles Dickens efo’r fath afiaith pe bawn i wedi gorfod ymgodymu’n gorfforol â’r fath globyn. Mantais arall ydi’r ffaith fod fersiynau electronig o’r clasuron Saesneg ar gael yn rhad ac am ddim.

‘Mae angen i rywun ddod â’r clasuron Cymraeg megis Wythnos yng Nghymru Fydd allan ar Kindle ... a’r Blaned Dirion ... omnibus gwyddonias! Y llyfrau sydd allan o brint i gyd!’ meddai Sara Louise Wheeler, colofnydd i bapur bro Y Clawdd mewn trafodaeth ddiweddar ar y gweplyfr.

Y broblem efo hynny, eglurodd un golygydd, ydi y byddai addasu’r clasuron yn golygu llawer iawn o waith, gan gynnwys aildeipio cyfrolau cyfan am nad ydi’r testun ar gael ar gyfrifiadur. Tybed a fyddai modd trefnu ‘teipothon’? oedd awgrym ardderchog Sara. Mi faswn i’n gem, yn sicr.

Felly be amdani, weisg Cymru? Mae Rhys Lewis Daniel Owen ar fy Nghindl yn barod, wedi imi ei brynu gan Cromen, sydd ar hyn o bryd yn arloeswr unig ym maes yr e-glasuron Cymraeg. Felly siawns nad oes modd addasu hen gampweithiau eraill hefyd efo cymorth gwirfoddolwyr? Ond yn gyntaf, rhaid symud efo’r oes a mynd ati i gyhoeddi rhagor o e-lyfrau cyfoes Cymraeg, gan mai’r Lolfa a Gomer ydi’r unig weisg sy’n gwneud hynny ar hyn o bryd a hynny ddim ond gyda’u prif deitlau.

Hyd y gwela i, dadleuon sentimental ydi’r rhan fwyaf o’r rhai yn erbyn defnyddio’r dechnoleg, efo ryw sylwadau corni fel ‘Fedrwch chi ddim gweld ôl dagrau pobol eraill ar Kindle’.

Trwydded farddol ydi peth felly, wrth gwrs, ond hyd yn oed petai modd gweld ôl dagrau wedi sychu ar dudalen, mi fyddai’n rhaid i’r llyfrau felly fod yn rhai ail-law neu wedi’u benthyg, ac mae benthyca llyfrau yn hen arferiad cybyddlyd, Cymreig sy’n codi ’ngwrychyn i.

Teitl erthygl wrth-Gindl arall a ymddangosodd yn ddiweddar oedd ‘You can’t meet a lover on your Kindle’, yn telynegu am ramant siopau llyfrau a’r carwriaethau sy’n cychwyn ynddynt (yn ôl ffilmiau siwgwrllyd fel Notting Hill, beth bynnag).

Yn bersonol, dwi wastad wedi mynd i siopau o’r fath i chwilio am lyfrau, nid cariadon. Ac roedd y profiad anghynnes ges i mewn llyfrgell (yn Woodstock, Ontario, o bob man) wrth i ryw grîp sbecian arna i drwy’r silffoedd a stelcian ar fy ôl i lawr y stryd wedyn yn ymdebygu mwy i blot thriller seicolegol nag i gomedi ramantus.

Ond tydi fy nhröedigaeth dechnolegol ddim yn golygu ’mod i am weld tranc llyfrau traddodiadol – mae yna le i bob ffurf o’r cyfrwng. Yn anad dim, mae gen i le i storio fy holl lyfrau.