Allen Raine
6 Hydref 1836 – 21 Mehefin 1908
Allen Raine yw ffug-enw Anne Adeliza Evans, nofelydd poblogaidd a werthodd dros ddwy filiwn o lyfrau drwy Brydain a'r ymerodraeth Brydeinig.
Ganwyd Anne Evans yng Nghastell Newydd Emlyn, Sir Gaeryrfyrddin. Cyfreithiwr oedd ei thad ac fe yrrodd Anne i Cheltenham i gael ei haddysgu at deulu Henry Solly, gweinidog Undodol, yn 1849. Rhwng 1851-1856 bu’n byw gyda’i chwaer yn Wimbledon, Llundain, cyn dychwelyd i Gymru. Ar ôl priodi Beynon Puddicombe, cynrychiolydd tramor banc Smith Payne, Llundain, yn 1872, bu’r ddau yn byw yng nghyffinau Llundain. Pan ddechreuodd Beynon ddioddef o afiechyd meddyliol symudodd y ddau i Dresaith, Sir Aberteifi in 1900. Bu farw Beynon Puddicombe yn 1906, arhosodd Anne yn Nhresaith hyd at ei marwolaeth yn 1908.
Ysgrifennodd ei nofel gyntaf, Ynysoer, yn Gymraeg ac fe’i gwobrwyd yn gydradd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1894. Stori gyfres gyda chefndir Gymreig oedd hwn ac fe’i cyhoeddwyd yn y North Wales Observer, yn ddiweddarach fe’i cyfieithwyd i’r Saesneg a’i gyhoeddi yn 1909 fel Where Billows Roll.
Cafodd nofel Saesneg, Mifanwy, ei gwrthod gan chwech o gyhoeddwyr ond wrth newid ei enw i A Welsh Singer by Allen Raine fe’i cyhoeddwyd yn 1896. Roedd hyn yn gychwyn ar gyhoeddi nifer o nofelau, wedi eu seilio ger arfordiroedd Siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi, oedd yn darlunio’r gymdeithas oedd hi yn ei adnabod ac yn byw ynddo: Torn Sails, 1898; By Berwen Banks, 1899; Garthowen, 1900; A Welsh Witch, 1902; On the Wings of the Wind, 1903; Hearts of Wales, 1905; Queen of the Rushes, 1906.
Wedi ei marwolaeth yn 1908 cyhoeddwyd - Neither Store-house or Barn, 1908: All in a Month, 1908, oedd yn delio â salwch meddyliol ei gŵr; Where Billows Roll, 1909; Under the Thatch, 1910, oedd yn delio â chancr - bu farw Allen Raine o ganlyniad i gancr y fron.
Gelwir gweithiau Allen Raine yn ramantus yn aml ond mae nhw hefyd wedi eu seilio mewn cefndir Gymreig sy’n portreadu’r elfennau hynny sy’n wahanol ac sy’n gyffredin yn niwylliant a chymdeithas ei hoes. Pobl go iawn yw ei chymeriadau - ffermwyr, gwneuthurwyr hwyliau, melinwyr, pysgotwyr, doctoriaid, cyfreithwyr - ac mae nhw’n cael eu trin yn gynnes, yn gariadus a chyda theimlad positif tuag at yr iaith maen nhw’n ei siarad.
Gwerthwyd dros ddwy filiwn o lyfrau Allen Raine ac fe wnaed ffilmiau o dri ohonynt – Torn Sails, A Welsh Singer, By Berwen Banks. Credir fod y dair ffilm wedi eu colli.