Fformatau digidol e-lyfrau
Mae Cromen yn cynnig e-lyfrau mewn fformatau ePub a mobi. Un o fanteision amlwg y fformatau hyn yw gan nad ydych yn darllen un tudalen pendant ar y tro mae modd chwyddo neu leihau maint y llythrennau ar y sgrin i siwtio’r darllenydd.
EPUB
Hwn yw’r fformat mwyaf cyffredin ac mae’n addas ar gyfer darllen llyfrau ar y mwyafrif helaeth o beiriannau gan gynnwys : Apple - iPad, iPhone, iPod Touch; Kobo - eReader; Barnes and Noble - Nook; Sony - Reader; BeBook; Bookeen - Cybook.
Gellir darllen ePub ar gyfrifiaduron Mac a PC hefyd gan ddefnyddio rhaglenni rhad ac am ddim fel Adobe Digital Editions. Ar systemau Android gellir defnyddio rhaglen Aldiko. Mae rhaglen FBreader yn addas ar gyfer Linux ac mae fersiynnau ohono ar gael ar gyfer Mac, PC ac Android hefyd.
MOBI
Peiriannau Kindle gan Amazon sy’n defnyddio e-lyfrau mobi.