Teulu Bach Nantoer
Moelona
Golygiad o'r argraffiad cyntaf, 1913, mewn orgraff ddiweddar yw'r e-lyfr hwn, ac mae hefyd yn cynnwys y feirniadaeth a gafwyd ar y nofel yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1912, ynghyd â'r Eirfa a gyhoeddwyd yn y gyfrol wreiddiol. I gyd-fynd â rhaglen deledu, a gynhyrchwyd gan gwmni Unigryw, ac a ddarlledwyd ar S4C, Medi 2013, ysgrifennwyd cyflwyniad gan Siwan M. Rosser ac mae adran Nodiadau wedi ei gynnwys ar ddiwedd y llyfr sy'n cynnwys gwybodaeth pellach am y dyfyniadau sy'n agor pob pennod.
O gyflwyniad Siwan M. Rosser :
Yn ddiymhongar ddigon y cyflwynodd Lizzie Mary Owen, 1877–1953, ei ‘llyfr bychan’, Teulu Bach Nantoer, i blant Cymru ganrif yn ôl, ‘gan hyderu y cânt ynddo fwynhad, a rhyw gymaint o symbyliad i garu â chariad mawr eu hiaith, eu gwlad, a’u cenedl’.
Dyma nofel fechan swynol a dirdynnol sy’n werth ei darllen o hyd. At hynny, mae’n rhan hanfodol o hanes datblygiad llenyddiaeth plant yng Nghymru, a thrwy archwilio’r modd y mae Moelona yn cyfathrebu â’i chynulleidfa ifanc gallwn ddeall cryn dipyn am feddylfryd Cymry ddechrau’r ugeinfed ganrif. Efallai fod Teulu Bach Nantoer yn ymddangos yn stori syml, ond y mae wedi ei llwytho â gobeithion a phryderon Cymry’r cyfnod am eu hiaith, eu cymuned a’u diwylliant.
Mae’r teulu bach, megis Cymru, mewn sefyllfa fregus yn sgil y bygythiadau allanol a’u hamgylchiadau tlodaidd. Ond trwy ddisgyblaeth, addysg a theyrngarwch i deulu, cymuned a gwlad, mae’r nofel yn dangos sut y gellir trawsnewid tynged y plant, ac felly’r genedl.
Yn sgil y newidiadau cymdeithasol mawr yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, tyfodd darlun rhamantaidd Moelona o fywyd teuluol yn fwyfwy amherthnasol a sentimental, a chollodd y nofel ei hapêl gynnar. Mae perygl heddiw inni anghofio’n llwyr am y teulu bychan ym mwthyn Nantoer. Os digwydd hynny, byddwn ar ein colled oherwydd gall y nofel fechan hon gyflwyno darllenwyr, ifanc a hen, i fyd a meddylfryd Cymry troad yr ugeinfed ganrif.
Ydy, mae hon yn nofel ddiniwed sy’n perthyn i gyfnod a fu – ac mae hynny’n rheswm dros ei darllen yn hytrach na’i hanwybyddu. Gyda’r fersiwn arloesol hwn, dathlwn un o drysorau llenyddiaeth plant y Gymraeg a rhoi’r cyfle i Teulu Bach Nantoer adael ei hargraff ar lechen ddigidol ein hoes ni.
Ar gael hefyd o –
epub ar gyfer ipad, iphone, kobo, nook, sony reader, mac, pc
Gwales £2.99iBookstore £2.99Kobo £2.99
mobi ar gyfer kindle