W H Davies
3 Gorffennaf 1871 – 26 Medi 1940
Roedd William Henry Davies yn fardd, llenor a chrwydryn. Treuliodd ran helaeth o’i fywyd fel cardotyn yn America ac ym Mhrydain ond daeth yn enwog fel un o feirdd mwyaf poblogaidd ei gyfnod. Y prif themau yn ei waith yw rhyfeddodau byd natur, disgifiadau caledi bywyd, ei anturiaethau a’r pobl ddaeth ar eu traws wrth grwydro.
Yn fab i weithiwr haearn, ganwyd Davies yn 6, Portland Street yn ardal Pillgwenlli, Casnewydd. Roedd ganddo frawd hŷn, Francis Gomer Boase (oedd yn cael ei ystyried yn ‘araf’) ac ym 1874 ganwyd ei chwaer Matilda ac fe fu farw ei dad.
Roedd Davies yn ŵr ifanc eithaf gwyllt ac erfyniodd droeon ar ei nain i fenthyg arian iddo er mwyn hwylio i America. Gwrthod wnaeth ei nain ond gadael Casnewydd wnaeth Davies, gan deithio a gweithio dros dro yma ac acw. Mae The Autobiography of a Super-Tramp, a gyhoeddwyd yn 1908, yn disgrifio’i fywyd yn America rhwng 1893 a 1899, ac mae’n cynnwys hanesion ei anturiaethau a’r cymeriadau ddaeth ar eu traws wrth grwydro. Croesodd Môr yr Iwerydd o leiaf saith gwaith wrth weithio ar longau gwartheg. Bu'n teithio drwy lawer o Daleithiau'r America, weithiau’n begera, weithiau’n gweithio'n dymhorol, ond yn aml iawn roedd unrhyw arian yn cael ei wario ar sesiynnau yfed gyda chyd-gardotyn.
Pan ddarllenodd Davies am yr arian mawr oedd i’w wneud yn y Klondike fe adawodd yn syth am Ganada. Tra’n ceisio neidio ar drên nwyddau yn Renfrew, Ontario gyda’i gyfaill, y cardotyn Three-fingered Jack, fe syrthiodd ac fe wasgwyd ei droed dde dan un o olwynion y trên. Bu’n rhaid torri rhan isaf ei goes i ffwrdd a byth ers hynny fe fu’n gwisgo coes bren. Mae cofiannwyr Davies yn cytuno na ddylid diystryrru arwyddocâd y ddamwain, er na wnaeth Davies ei hun wneud lawer o sylw o’r digwyddiad a’i ganlyniad. Am y ddamwain ysgrifennodd Davies:
I bore this accident with an outward fortitude that was far from the true state of my feelings. Thinking of my present helplessness caused me many a bitter moment, but I managed to impress all comers with a false indifference… I was soon home again, having been away less than four months; but all the wildness had been taken out of me, and my adventures after this were not of my own seeking, but the result of circumstances.
Ar 12 Hydref 1905 cyfarfu Davies gydag Edward Thomas, beirniad llenyddol y Daily Chronicle yn Llundain, a’r un ddaeth i’w gefnogi’n fwy na neb arall. Llogodd Thomas fwthyn bychan i Davies ger Sevenoaks, Swydd Caint, only two meadows off o dŷ Thomas ei hun. Mabwysiadodd Thomas rôl warcheidiol dros Davies, trefnodd unwaith i saer olwynion trol lleol greu coes bren dros-dro iddo.
Yn 1907, denodd lawysgrif The Autobiography of a Super-Tramp sylw George Bernard Shaw ac fe gytunodd i ysgrifennu rhagair i’r llyfr. Yn ei farddoniaeth roedd Davies yn gwneud defnydd o’i brofiadiau ar ymylon cymdeithas yn ogystal â’i gariad tuag at fyd natur. Mae’n cael ei gofio gan amlaf am linellau agoriadol ei gerdd Leisure, a gyhoeddwyd yn Songs Of Joy and Others yn 1911:
What is this life if, full of care
We have no time to stand and stare…
Gwelodd ei gyfaill a’i gefnogwr, Edward Thomas, elfennau tebyg i Wordsworth yng ngwaith Davies:
He can write commonplace or inaccurate English, but it is also natural to him to write, such as Wordsworth wrote, with the clearness, compactness and felicity which make a man think with shame how unworthily, through natural stupidity or uncertainty, he manages his native tongue. In subtlety he abounds, and where else today shall we find simplicity like this?
Mae casgliad helaeth o lawysgrifau Davies, sy’n cynnwys copi o Lesiure wedi ei ddyddio 8 Mai 1914, dan ofal Lyfrgell Genedlaethol Cymru.