W J Griffith

15 Medi 1875 – 7 Hydref 1931

Basged £0.00
Henllys Fawr, Aberffraw, oedd cartref teuluol tad William John Griffith, 1875-1931. Ar ôl cael ei fagu yn Llansadwrn a’i addysgu ym Miwmares a’r Brifysgol ym Mangor symudodd W J Griffith i ffermio’r Henllys Fawr. Ymunodd â’r fyddin ym 1914 ond daeth adref i ofalu am y fferm ym 1916 wedi marwolaeth ei dad.

Enillodd W J Griffith wobr ym mhapur newydd Y Genedl Gymreig am ei stori Eos y Pentan yn 1924, cyhoeddwyd Yr Hen Siandri yn Y Genedl yn 1925 ac fe ymddangosodd stori newydd yn rheolaidd ganddo hyd Nadolig 1930. Casglwyd y storïau hyn at ei gilydd gan T Rowland Hughes ac fe’u cyhoeddwyd yn 1938 dan y teitl Storïau’r Henllys Fawr. Bu farw W J Griffith cyn i’r gyfrol weld golau dydd.

Ysgrifennodd ddramâu i’r cwmni drama lleol yn ogystal ag ambell ysgrif ond ei storïau byrion sydd wedi goroesi ac fe ddarlledwyd addasiadau teledu gan Gareth Miles ar S4C yn yr 1980au.

Gwybodaeth o Y Bywgraffiadur Arlein & Wicipedia

english