In Pursuit of Spring

Edward Thomas

Am fod y gwanwyn yn hwyr yn cyrraedd ym 1913, penderfynodd Edward Thomas fynd i chwilio am fedd y gaeaf ac am arwyddion o droad y tymhorau. Ar Ddydd Gwener y Groglith, Mawrth 21ain, cychwynodd Thomas o Lundain tua’r gorllewin ar ei feic.

I had a wish of a mildly imperative nature that Spring would be arriving among the Quantocks at the same time as myself… Spring would come fast, not slowly, up that way.

Dros daith naw diwrnod mae Thomas yn nodi’r newidiadau sy’n amlwg yn y tirlun ac yng nghaneuon yr adar; mae’n disgrifio’i lwybr a’i ymweliadau eglwysig; ond mae hefyd yn cofio am feirdd ac ysgrifenwyr eraill fel Coleridge a Wordsworth, ac ar eu diddordeb ym myd natur a bywyd cefn gwlad.

Cyhoeddwyd The Pursuit of Spring yn wreiddiol yn 1914 ac mae’n pontio’r gofod rhwng Thomas y newyddiadurwr/beirniad a Thomas y bardd nodedig.

Newyddiadurwr a beirniad llenyddol oedd Edward Thomas, 1878-1917 - roedd yn ffrind agos i Robert Frost ac yn gefnogwr brwd o W H Davies. Trodd o ysgrifennu rhyddiaith i ysgrifennu barddoniaeth ym 1914 dan ddylanwad ac annogaeth Robert Frost a welodd fod elfennau barddonol cryf yng ngweithiau rhyddiaith Thomas.

Mae ei farddoniaeth wedi cael ei glodfori a’i frolio gan W H Auden, Cecil Day-Lewis, Dylan Thomas, Philip Larkin, Andrew Motion, Michael Longley ac ym 1985 disgifwyd Thomas fel …the father of us all gan Ted Hughes.

Lladdwyd Edward Thomas ar ddydd Llun Pasg 1917 ym mrwydr Arras.

Epub ar gyfer Apple, Sony, Kobo

£2.45

Mobi ar gyfer Kindle

£2.45

Ar gael hefyd o –

epub ar gyfer ipad, iphone, kobo, nook, sony reader, mac, pc

Gwales £2.99iBookstore £2.99Kobo £2.99

mobi ar gyfer kindle

Cromen £2.45Amazon £2.99

papur ar gyfer eich silff lyfrau - 244 tudalen - clawr meddal - 108 x 175 x 14 mm

Amazon £11Lulu £11

Efallai fydd gennych ddiddordeb yn y teitlau hyn –

In Pursuit of Spring

In Pursuit of Spring

Edward Thomas

The Autobiography of a Super-Tramp

The Autobiography of a Super-Tramp

W H Davies

A Poet\'s Pilgrimage

A Poet's Pilgrimage

W H Davies

Cartrefi Cymru

Cartrefi Cymru

O M Edwards

english