The Autobiography of a Super-Tramp
W H Davies
“I hasten to protest at the outset that I have no personal knowledge of the incorrigible super-tramp who wrote this amazing book,”
dyma gychwyn rhagair George Bernard Shaw i’r llyfr hwn. Fe’i cyflwynwyd i waith Davies pan dderbyniodd gyfrol o’i gerddi drwy’r post ac fe fu’n hollbwysig yn cyflwyno’r gwaith at feirniaid a chyhoeddwyr. Ar yr adeg hynny ni wyddai fod Davies yn gardotyn ac yn byw mewn llety trampiaid yn Llundain.
Mae The Autobiography of a Super-Tramp yn croniclo’r cyfnod rhwng 1893 a 1899 pan adawodd Davies ei dref enedigol, Casnewydd, a threuliodd yr amser yn crwydro, cardota ac yn gweithio’n dymhorol yn Unol Daleithiau'r America a Canada.
Bu mewn carchar ym Michigan dros gyfnod oer y gaeaf, yn teithio i lawr y Mississippi mewn cwch-dŷ ac fe groesodd Fôr yr Iwerydd amryw o weithiau ar longau gwartheg. Cawn ein cyflwyno i Brum, New Haven Baldy, Australian Red, Cockney More, Scotty a llawer o gymeriadau eraill sy'n crwydro’r un llwybrau. Wrth anelu am y Klondyke yn Winnipeg ceisiodd Davies a Three Fingered Jack neidio ar drên nwyddau yn Renfrew, Ontario, syrthiodd Davies a chwalwyd ei droed dan un o olwynion y trên – bu’n rhaid torri rhan isaf ei goes i ffwrdd ond doedd ei ddyddiau o gardota a chrwydro ddim wedi dod i ben.
Ar gael hefyd o –
epub ar gyfer ipad, iphone, kobo, nook, sony reader, mac, pc
mobi ar gyfer kindle
papur ar gyfer eich silff lyfrau - 320 tudalen - clawr meddal - 108 x 175 x 17 mm