Y nofel Gymraeg enwocaf?

Y frawddeg agoriadol, y nofel a’r awdur amlycaf ym myd y nofel Gymraeg. Cyhoeddiad cyntaf Cromen – a lle gwell i ddechrau?
n-enoc
“Mab llwyn a pherth oedd Enoc Huws, ond nid yn Sir Fôn y ganwyd ef.”

Y frawddeg agoriadol, y nofel a’r awdur amlycaf ym myd y nofel Gymraeg. Cyhoeddiad cyntaf Cromen – a lle gwell i ddechrau?

Daw Enoc Huws wyneb yn wyneb â Richard Trefor – un yn fasnachwr llwyddiannus sy’n ofnadwy o swil a’r llall yn Gapten ariannog sy’n feistr ar bwll mwyngloddio plwm ac yn dad i Susi. Mae ’na farwolaeth ar gychwyn y nofel a phriodas ar ei diwedd ond rhwng rheiny cawn gyfarfod â housekeeper, plismon, gweinidog a chrydd yn ogystal ag ambell ddihiryn ac humbug.

Roedd Daniel Owen, 1836-1895, yn deiliwr yn Yr Wyddgrug ac yn disgrifio’i gymdeithas ar ddiwedd y 19eg Ganrif. Cyhoeddwyd ei nofelau fesul pennod mewn cylchgronau a phapurau newydd: Enoc Huws a Gwen Tomos yn Y Cymro; Rhys Lewis yn Y Drysorfa.

Mae Enoc Huws ar gael fel llyfr digidol yn fformat epub a mobi drwy siop Cromen ac fel llyfr papur clawr meddal ar wefannau Amazon a Lulu – ewch i dudalen Enoc Huws am fanylion pellach.

english