Teulu Bach Nantoer ar Ddiwrnod y Llyfr

Rhaglen deledu cwmni Unigryw ar gyfer S4C yn cael ei hail-darlledu i ddathlu Diwrnod y Llyfr.
n-nantoer
Teulu Bach Nantoer - Y stori tu ôl i'r nofel
Rhaglen deledu ar S4C, 15 Medi 2013 - ail-ddarllediad 6 Mawrth 2014 i ddathlu Diwrnod y Llyfr.

Yn 2013 roedd can mlynedd wedi mynd heibio ers i nofel blant Elizabeth Mary Jones gael ei chyhoeddi gyntaf a bydd rhaglen ddogfen Teulu Bach Nantoer yn agor clawr y llyfr arbennig hwn unwaith eto.

Ymunwch ag S4C ar gyfer rhaglen ddogfen arbennig Teulu Bach Nantoer, nos Iau, 6 Mawrth. Dyma raglen awr fydd yn edrych ar hanes y nofel a'i hawdures, yn cynnwys trafodaethau ar y nofel gan academyddion ac atgofion gan rai sy'n cofio ei darllen pan oeddent yn blant. Byddwn hefyd yn clywed ymateb plant heddiw ar ôl ei darllen.

Y gyflwynwraig Beti George sy'n dod o'r un ardal â'r awdur fydd yn mynd ar drywydd hanes y nofel eiconig hon, un o'r nofelau mwyaf poblogaidd erioed yn yr iaith Gymraeg a werthodd tua 30,000 o gopïau.

Mae Teulu Bach Nantoer ar gael fel llyfr digidol yn fformat epub a mobi drwy siop Cromen – ewch i dudalen Teulu Bach Nantoer am fanylion pellach.

english