Dilyn "beirdd a chantorion, enwogion o fri"

Wrth deithio o amgylch Cymru mae Owen M Edwards yn cyflwyno cipolwg o’r wlad a’i thirwedd, o’i hanes a’i diwylliant ac o’i phobl a’u cymdeithas.
n-cartrefi
Cyhoeddwyd Cartrefi Cymru yn wreiddiol ym 1896 ac mae yma gyfeiriadau at y Rhyfel Mawr ac at orsafoedd trenau nad ydynt yn bod bellach ond mae yma hefyd awyrgylch oesol. Wrth deithio o amgylch Cymru, gan ymweld â chartrefi beirdd, cantorion ac enwogion o fri, mae Owen M Edwards yn cyflwyno cipolwg o’r wlad a’i thirwedd, o’i hanes a’i diwylliant ac o’i phobl a’u cymdeithas.

Bu Owen M Edwards yn olygydd cylchgronau, yn Aelod Seneddol ac yn arolygwr ysgolion. Drwy’r amrywiol lyfrau a ysgrifennodd roedd yn awyddus i greu balchder yn y Cymry tuag at eu hanes, eu hiaith a’u diwylliant.

Mae Cartrefi Cymru ar gael fel llyfr digidol yn fformat epub a mobi drwy siop Cromen ac fel llyfr papur clawr meddal ar wefannau Amazon a Lulu – ewch i dudalen Cartrefi Cymru am fanylion pellach.

english